Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 27 Ionawr 2015 |
|
|||
Amser: |
08.30 - 08.45 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion ar gyfer eu cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr Wythnos Hon
Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio ddydd Mawrth ar ôl yr eitem olaf o fusnes. Cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylid cynnal y Cyfnod Pleidleisio cyn y Ddadl Fer ddydd Mercher.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 25 Chwefror 2015
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i fynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
4 Deddfwriaeth
4.1 Y Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio’r Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) i’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ohirio’r penderfyniad ar amserlen y Bil tan yr wythnos nesaf i roi amser i ymgynghori â’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
4.2 Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru)
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes eu penderfyniad o ran egwyddor a wnaed ar 20 Ionawr i gyfeirio’r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 1, a chytunwyd ar 26 Mehefin 2015 fel y terfyn amser i’r Pwyllgor adrodd ar Gyfnod 1, a 9 Hydref 2015 fel y terfyn amser i gwblhau trafodion Cyfnod 2 y Pwyllgor.
5 Pwyllgorau
5.1 Y Pwyllgor Menter a Busnes: Cais i ymweld â Manceinion
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gais gan y Pwyllgor Menter a Busnes i ymweld ag Awdurdod Cyfun Manceinion Fwyaf ddydd Iau 5 Mawrth 2015, sy’n golygu y bydd yn rhaid i Aelodau adael y Cynulliad cyn diwedd y Cyfarfod Llawn ar y dydd Mercher.
Unrhyw Fater Arall
Cododd Gweinidog Busnes y Llywodraeth y mater ynghylch y Pwyllgor yn rhoi sylw i gael gwared â’r amddiffyniad o gosb resymol ar gyfer cosbi plant yn gorfforol. Ar 2 Rhagfyr 2014, pleidleisiodd Rheolwyr Busnes yn erbyn trefnu dadl ar y cynnig i gytuno ar aelodaeth y pwyllgor. Cadarnhaodd Rheolwyr Busnes nad oedd eu safbwynt wedi newid.